Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image

Rhannu’r cyfrifoldeb

Mae angen i’r ffordd rydyn ni’n ariannu’r system gofal newid. Mae costau gofal yn mynd i godi oherwydd mae mwy ohonom yn byw’n hirach ac mae ein disgwyliadau ynglyn â’r gwasanaethau gofal rydyn ni’n eu derbyn yn codi. Heddiw, rydyn ni, ein teuluoedd a’r gymdeithas ehangach - trwy’r Llywodraeth - yn rhannu’r cyfrifoldeb am dalu am ofal. Yn y dyfodol, bydd arnom angen ffyrdd newydd a ffyrdd ychwanegol o ariannu gofal.

Dyma’ch cyfle chi i ddweud eich dweud ynglyn â’r ffordd y dylem ni rannu’r cyfrifoldeb ar gyfer talu’r costau gofal cynyddol hyn. Cyn i chi fynegi’ch barn, efallai yr hoffech chi edrych ar y ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu mewn gwledydd eraill.

Pwy ddylai gyfrannu mwy at ofal yn y dyfodol?

  • Unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth
  • Teuluoedd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth; neu'r
  • Gymdeithas gyfan.

Unigolion

Yn y dyfodol, os bydd angen gofal arnoch, a ddylid disgwyl i chi dalu amdano eich hun? Sut allem ni i gyd baratoi at y costau hyn? Pa ran ddylai’r Llywodraeth ei chwarae i gynorthwyo pobl i baratoi at y costau hyn?

Teuluoedd

Ar hyn o bryd, mae teuluoedd yn cyfrannu at gostau gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol yn aml trwy dalu taliadau atodol trydydd parti ar gyfer perthnasau sydd mewn cartrefi gofal. Aelodau’r teulu hefyd yw’r rhan fwyaf o’r 340,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Yn y dyfodol, os bydd angen cymorth arnoch, a ddylid disgwyl i’ch teulu ofalu amdanoch neu dalu am eich gofal? Sut all pawb baratoi at dalu costau o’r fath?

Faint ddylid disgwyl i deuluoedd ei gyfrannu? Beth yw’r ffordd orau y gall y Llywodraeth eu cynorthwyo?

Y gymdeithas gyfan

Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn gwario £1.3 biliwn ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn y dyfodol, bydd cyfran is o bobl o oedran gweithio, (ac sy’n gallu talu treth incwm), o gymharu â’r gyfran o bobl a fydd angen gwasanaethau gofal.

Yn y dyfodol, os bydd angen gofal arnoch, a ddylid disgwyl i gymdeithas dalu amdano? Sut fyddai’r cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng y gymdeithas gyfan?

  • A fyddai’n rhaid i bawb gyfrannu mwy?
  • A fyddai pobl hyn yn cael eu heithrio rhag cyfrannu?
  • A fyddai pobl iau yn cael eu heithrio rhag cyfrannu?
  • Beth am bobl ddi-waith neu’r rhai sy’n methu â gweithio?
  • Beth am bobl sydd heb fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain?
  • Beth am swyddogaeth eich cyflogwr?
  • Beth am swyddogaeth sefydliadau gwirfoddol?