Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image

Gosod rheolau clir, teg ar gyfer cymorth ariannol yn y dyfodol

Waeth sut y gwnawn ni rannu’r cyfrifoldeb dros ofal yn y dyfodol, dim ond hyn a hyn o arian fydd ar gael i’r Llywodraeth ei wario. Felly, mae angen i ni feddwl sut y dylid defnyddio’r arian hwnnw i gynorthwyo pobl sydd angen gofal.

Mae angen i ni gael y cydbwysedd yn iawn ar dri mater, ac fe hoffem ni i chi ddweud wrthym ba system y tybiwch chi sydd fwyaf teg ar gyfer pob un o’r materion hyn. Nid oes atebion cywir neu anghywir. Bydd eich safbwyntiau chi yn ein cynorthwyo i osod rheolau clir a theg ar gyfer system cymorth ariannol fwy cynaliadwy.

Cenedlaethol neu leol?
Systemau gwahanol ar gyfer anghenion gwahanol?
Mwy o gymorth i bobl sydd ag incwm isel ac ychydig iawn o asedau?

Cenedlaethol neu leol?

Ar hyn o bryd, gwneir penderfyniadau ar wasanaethau gofal yn lleol. Mae hyn yn arwain at amrywiadau yn y gwasanaethau sydd ar gael. Yn y dyfodol ai llywodraeth ganolog neu leol fydd yn penderfynu pwy sydd â hawl i gael cymorth, a beth y mae hawl ganddynt ei gael?

Mae crynodeb o’r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn isod:
  O blaid Yn erbyn
Cenedlaethol – llywodraeth ganolog yn gwneud y penderfyniadau Bydd pawb sydd â’r un anghenion gofal yn cael yr un faint o gymorth Bydd lefelau’r cymorth yn dibynnu ar faint o arian y mae llywodraeth ganolog am ei wario ar ofal a chymorth
Bydd pobl yn cael eu hannog i gynllunio mwy oherwydd byddant yn gwybod pa fath o gymorth y byddant yn ei gael Ni fydd y cymorth y bydd pobl yn ei gael yn ystyried gwahaniaethau lleol (er enghraifft, efallai y bydd angen mwy o gymorth gyda thrafnidiaeth ar bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig na’r rhai sy’n byw mewn trefi)
Lleol - awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau Mwy o gyfle i bobl fynegi eu barn ynglyn â’r math o gymorth sy’n cael ei ddarparu yn eu hardal Bydd lefelau’r cymorth yn dibynnu ar faint o arian y bydd eich awdurdod lleol am wario ar ofal a chymorth
Gall lefel y cymorth sydd ar gael ystyried gwahaniaethau lleol Bydd y cymorth yn amrywio yn ôl ble rydych chi’n byw, gan ei gwneud yn anodd i gynllunio a gall achosi problemau os byddwch chi’n symud tŷ

Noder: nid ydym yn gofyn pwy ddylai gyflenwi neu ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth go iawn. Sefydliadau lleol byddai’n gwneud hyn o hyd.

Systemau gwahanol ar gyfer anghenion gwahanol?

Yn y dyfodol, a ddylai pawb sydd angen cymorth gael yr un faint o gymorth neu a ddylai’r llywodraeth roi mwy o gymorth i bobl nad ydynt yn gallu cynllunio a pharatoi ar gyfer eu gofal a’u cymorth eu hunain?

Mae’r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn isod:
  O blaid Yn erbyn
Gwahanol systemau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl Gellir rhoi blaenoriaeth i bobl y mae eu cyflwr yn gysylltiedig â chostau uchel (er enghraifft pobl anabl, neu bobl sydd wedi cael damwain neu salwch sydyn) Bydd yn rhaid i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb dros baratoi ar gyfer y costau gofal a chymorth hynny sy’n debygol o godi mewn henaint
Yr un system i bawb Byddai pawb yn cael yr un cymorth Gallai pobl anabl neu bobl sy’n mynd yn sâl neu’n cael damwain fod ar eu colled oherwydd na fyddent yn gallu fforddio’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt

Mwy o gymorth i bobl sydd ag incwm isel ac ychydig iawn o asedau?

Yn y dyfodol, a ddylai pawb sydd angen cymorth gael yr un faint o gymorth, neu a ddylai’r llywodraeth roi mwy o gymorth i bobl sydd ag incwm isel ac ychydig iawn o asedau?

Mae’r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn isod:
  O blaid Yn erbyn
Gwahanol gymorth, yn dibynnu ar fodd ariannol Byddai cymorth yn cael ei dargedu at bobl sydd ei angen fwyaf Gallai pobl sydd wedi gweithio’n galed a chynllunio’u harian deimlo eu bod yn cael eu cosbi
Yr un cymorth i bawb Byddai pawb yn cael yr un cymorth Bydd pobl nad oes arnynt angen cymorth ariannol yn ei gael beth bynnag
Efallai na fydd digon o arian ar gael i bobl sydd â’r lefel incwm isaf i gael yr holl ofal a chymorth sydd eu hangen arnynt