Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Os hoffech ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar-lein, cliciwch ar y testunau uchod a llenwi’r ffurflen ymateb ar gyfer pob cwestiwn ymgynghori. Fel arall, anfonwch e-bost gyda’ch safbwyntiau i: payingforcare@wales.gsi.gov.uk.
Rhagor o gopïau a fformatau hawdd eu deall
Gellir cael rhagor o gopïau caled o'r ddogfen ymgynghori drwy anfon e-bost i payingforcare@wales.gsi.gov.uk neu drwy ffonio 029 2082 5681.
Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat amgen, cysylltwch â'r Tîm Talu am Ofal ar y rhif uchod.
Gellir dod o hyd i fersiwn hawdd ei ddarllen yma (yn agor mewn ffenestr newydd ac ar gael yn Saesneg yn unig) (5740K). Os hoffech gael copi caled, cysylltwch â'r Tîm Talu am Ofal ar y rhif uchod.
Sut y gall fy sefydliad gymryd rhan?
Byddwn yn cynnal tri digwyddiad ymgynghori cenedlaethol i randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Anfonwyd gwahoddiadau i'r rhain i bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, a gofynnwyd i'r awdurdodau anfon grwp cynrychioliadol o'u hardal leol. Anfonwyd gwahoddiadau i sefydliadau cenedlaethol hefyd sydd â buddiant o ran talu am ofal.
Os ydych yn aelod o sefydliad neu grwp buddiant, mae'n bosibl y byddwch am gyfrannu at ei ddadl ei hun ar opsiynau'r Papur Gwyrdd.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried yr holl ymatebion sy'n dod i law yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Caiff adroddiad ar yr ymgynghoriad, sy'n crynhoi'r ymatebion a gafwyd, ei gyhoeddi ar y wefan hon ychydig wythnosau ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.
Yna bydd Gweinidogion Cymru yn cynnal trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU, a chyda Gweinidogion o'r Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn dod i gytundeb ar yr hyn sy'n gweithio orau i ddinasyddion o bob cwr o'r DU.
Pan wneir penderfyniad ar y ffordd orau o weithredu, caiff Papur Gwyn ei lunio yn nodi cynigion ar gyfer y dyfodol. Gan y byddai hyn yn broses ddiwygio fawr, byddai angen cyflwyno'r newidiadau'n raddol dros nifer o flynyddoedd.
Sut y caiff fy sylwadau eu defnyddio?
Dim ond i lywio cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU o ran newid y system o dalu am ofal y defnyddir eich sylwadau. Bydd eich sylwadau yn ffurfio'r cynigion a nodir mewn Papur Gwyn yn y pen draw. Caiff yr ymatebion eu crynhoi yn yr adroddiad ar yr ymgynghoriad, a gyhoeddir ar y wefan hon. Ni chaiff unrhyw sylwadau eu priodoli i unigolion.

