Polisi Cyfrinachedd
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ yw rheolydd y data at ddibenion Deddf Diogelu Data 1998.
Mae Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru wedi sefydlu ac yn gweinyddu gwefan e-ymgynghori Talu am Ofal yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n prosesu gwybodaeth bersonol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym ein dau yn cydnabod bod eich preifatrwydd yn bwysig i chi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru wedi'u cofrestru gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth. O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i sefydliadau eraill iddynt ei defnyddio at eu dibenion marchnata ac ymchwil eu hunain.
Bydd yr holl wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu yn cael ei defnyddio a'i datgelu dim ond fel sy'n cael ei chaniatáu gan Ddeddf Diogelu Data 1998, ac fel sy'n cael ei gofyn dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, neu God Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth (2004), neu unrhyw ofyniad cyfreithiol.
Rhyddid Gwybodaeth
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â'r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sef yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os dymunwch i'r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol, o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bod Cod Ymarfer statudol y mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef, sy'n ymdrin â goblygiadau cyfrinachedd ymysg pethau eraill. Yng ngoleuni hyn, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn egluro pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir gennych yn gyfrinachol. Os cawn gais i ddatgelu'r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn warantu y byddwn yn cadw cyfrinachedd pob achos. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG ynddo'i hun, yn rhwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau sydd gennych mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y data personol a gesglir a'r defnydd a wneir ohono, os oes gennych unrhyw bryderon am ba mor gywir yw'r data personol, neu os ydych am ymarfer unrhyw hawliau sydd gennych o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, dylech gysylltu â Swyddog Diogelu Data Uned Ddata Llywodraeth Leol ar 029 2090 9500.
I gael mwy o wybodaeth am Ddiogelu Data ewch i: http://www.informationcommissioner.gov.uk/
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn diweddaraf ar y dudalen hon. Drwy adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd, rydym yn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

