Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud
Model newydd ar gyfer ariannu gofal
Beth mae'r Llywodraeth yn ei gynnig?
Costau i bobl sy'n anabl yn gynnar yn eu bywydau
Mae pobl sy'n cael eu geni'n anabl neu sy'n anabl yn gynnar yn eu bywydau yn debygol o fod ar incwm is, ac felly mae'n debygol mai'r wladwriaeth sy'n talu am eu gofal a'r cymorth
a gânt. Mae Llywodraeth y DU yn cynnig y bydd hyn yn parhau o dan system newydd.
Help i bawb sy'n gymwys am ofal a chymorth
Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU am ddefnyddio'r arian a geir yn y system ofal i sicrhau bod pawb sy'n gymwys am ofal a chymorth yn cael rhywfaint o help i dalu am eu gofal.
Budd-daliadau i bobl anabl
Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu bod achos dros integreiddio rhai o'r budd-daliadau a delir i bobl anabl, megis y Lwfans Gweini, yn y system gofal a chymorth. Mae systemau budd-daliadau gofal
cymdeithasol ac anabledd wedi datblygu ar wahân dros y 60 mlynedd diwethaf, ac fe'u dyrennir ar sail wahanol. Cred y Llywodraeth y gall hyn esgor ar ganlyniadau anghyson ac annheg. Mae am uno'r
ddwy system fel y gellir defnyddio arian y wladwriaeth yn fwy effeithiol.
Cyflwyno arian newydd i'r system
Yn ogystal â sicrhau bod yr holl arian a geir yn y system ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl, mae hefyd angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno mwy o arian i'r
system.
Cred Llywodraeth y DU y dylai'r ffordd newydd o dalu am ofal fod yn seiliedig ar y syniad o bartneriaeth rhwng yr unigolyn a'r Llywodraeth.
Mae hyn yn golygu y byddai cyfran o gostau pawb sy'n gymwys am ofal a chymorth yn cael eu talu gan y Llywodraeth, ond byddai'n rhaid iddynt dalu'r gweddill eu hunain. Byddai'r swm y byddai'n
rhaid i bobl ei gyfrannu yn dibynnu ar faint y gallent ei fforddio.
Y dewis syml yw p'un a ddylem adael i bobl benderfynu a ydynt am ddiogelu eu hunain rhag costau gofal uchel, neu p'un a ddylem fynnu eu bod yn rhan o gynllun a fyddai'n eu diogelu.
Argymhellodd Grwp Cynghori Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i ystyried talu am ofal y dylai cyfraniadau fod yn ofynnol i bawb sy'n gwneud gwaith â thâl, ac roedd o'r farn
bod gan y Llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn y gwaith o sicrhau bod y cynllun yn cael ei redeg yn effeithiol.
Y pum prif opsiwn ariannu
Mae Llywodraeth y DU wedi ystyried manteision ac anfanteision y pum opsiwn ariannu.
Opsiwn 1: Talu amdanoch Chi'ch Hun
O dan yr opsiwn hwn, byddech yn gyfrifol am dalu am eich gofal a'ch cymorth eich hun pan fo'i angen arnoch. Diystyriwyd hyn oherwydd byddai'n golygu na fyddai llawer o bobl yn cael y gofal
na'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae'n annheg yn y bôn oherwydd ni all pobl ragweld pa ofal y bydd ei angen arnynt.
Opsiwn 2: Trethiant
O dan yr opsiwn hwn, trethiant cyffredinol a fyddai'n talu am gostau gofal. Diystyriwyd hyn oherwydd byddai angen cynyddu'r dreth y mae pobl yn ei thalu eisoes yn sylweddol (oherwydd byddai treth
yn ariannu pob math o ofal, gan gynnwys y rhannau y mae pobl yn talu amdanynt eu hunain pan fo'u hangen ar hyn o bryd). Byddai hefyd yn gosod rhan fawr o'r baich o dalu am ofal a chymorth ar
bobl sy'n gweithio.
Opsiwn 3: Partneriaeth
Mae'r opsiwn hwn yn rhan o sylfaen y tri opsiwn sy'n cael eu ffafrio gan Lywodraeth y DU ar gyfer system ariannu newydd. Byddai gan bawb, waeth beth fo'u cyfoeth ac yr aseswyd bod angen gofal
arnynt, yr hawl i ddisgwyl i'r wladwriaeth dalu am gyfran o'u costau. Er enghraifft, gallai'r wladwriaeth dalu am chwarter neu draean o gostau gofal pawb. Y tu hwnt i'r swm hwnnw, byddai pobl
yn talu tuag at eu costau'n uniongyrchol drwy eu hincwm a'u hasedau eu hunain, fel y maent yn ei wneud nawr.
Ni fyddai'r opsiwn Partneriaeth ei hun yn diogelu pobl yn llawn rhag y risg o orfod talu costau uchel tuag at eu gofal. Ond byddai mwy o gostau gofal yn cael eu talu ar gyfer pobl sy'n llai cefnog,
a byddai'r bobl sydd leiaf cefnog yn parhau i gael eu holl ofal am ddim.
Mae'r ddau opsiwn olaf yn adeiladu ar yr opsiwn Partneriaeth. Maent yn cynnwys y ffyrdd y gallai pobl dalu am weddill eu costau gofal (h.y. y gyfran y byddai'n rhaid iddynt ei
hariannu eu hunain).
Opsiwn 4: Yswiriant
Gallai pobl ddewis trefnu yswiriant rhag ofn bod angen gofal arnynt yn y dyfodol. Pan fyddai angen gofal arnynt, byddai'r Llywodraeth yn talu cyfran o'r costau o dan yr opsiwn Partneriaeth,
a byddai'r yswiriant yn talu am y gweddill. Gallai pobl naill ai dalu i mewn i gynlluniau yswiriant preifat, neu gynllun yswiriant wedi'i gefnogi gan y Llywodraeth. Gallai pobl dalu mewn sawl
ffordd wahanol, cyn neu ar ôl ymddeol, neu ar ôl iddynt farw os byddai'n well ganddynt wneud hynny.
Byddai pobl o oedran gweithio na allent fforddio trefnu yswiriant yn cael gofal a chymorth am ddim.
Opsiwn 5: Cynhwysfawr
O dan yr opsiwn hwn, byddai'n ofynnol i bawb sydd dros oedran ymddeol a oedd â'r adnoddau i wneud hynny yn talu i mewn i gynllun yswiriant y wladwriaeth. Yna byddai gofal a chymorth ar gael am
ddim i bobl pan fo'i angen arnynt.
Gallai'r swm y byddai'n rhaid i bobl ei dalu amrywio yn dibynnu ar beth y gallent ei fforddio. Neu gellid pennu swm penodol fel bod pobl yn gwybod faint yr oedd angen iddynt ei gynilo.
Gallai pobl ddewis talu'r swm hwn yn ystod eu bywyd gweithiol, ar ffurf cyfandaliad neu mewn rhandaliadau yn ystod eu hymddeoliad, neu hyd yn oed o'u hystâd ar ôl iddynt farw. Byddai'r
wladwriaeth yn talu cyfraniadau pobl na allent fforddio talu i mewn i'r system.
Am fod pawb yn y system, byddai pobl yn gallu talu llai na'u costau cyfartalog tebygol.
Gallai'r Llywodraeth ystyried pennu cyfradd is ar gyfer cyplau oherwydd gall y costau i ddau fod yn uchel iawn a bydd llawer o gyplau yn cynorthwyo ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd.
Fodd bynnag, pe baem yn gwneud hyn, byddai angen i ni wneud y cyfraniadau'n uwch i bobl sengl.
Ffyrdd o gyfrannu
Gallai pobl dalu eu cyfraniadau mewn ffyrdd amrywiol, naill ai ar gyfer yr opsiwn Yswiriant neu'r opsiwn Cynhwysfawr. Gallai pobl ddewis sut i dalu, yn dibynnu ar yr opsiwn sy'n
addas iddynt hwy.
Pe bai gan rywun gynilion, efallai y byddai'n well ganddo dalu ei gyfraniad ar ffurf cyfandaliad ar ôl ymddeol. Pe bai rhywun yn gallu gohirio ei ymddeoliad, efallai y byddai'n penderfynu
gohirio Pensiwn y Wladwriaeth am ychydig flynyddoedd a defnyddio'r arian i gyfrannu at y cynllun. Gallai pobl dalu mewn rhandaliadau fforddiadwy drwy gydol eu hymddeoliad. Pe na bai rhywun
am dalu unrhyw beth yn ystod ei fywyd, gallai ohirio'r taliad cyfan hyd nes iddo farw, ac yna ei dalu o'i ystâd. Neu gallem gyfuno'r opsiynau hyn fel y gallai pobl dalu rhan ar ffurf
cyfandaliad drwy eu pensiwn a rhan mewn rhandaliadau drwy gydol eu hymddeoliad.
Gwyddom y byddai llawer o bobl yn hoffi gallu dechrau paratoi cyn iddynt ymddeol. Felly, wrth i'r system ddatblygu, byddem yn ystyried cyflwyno opsiynau sy'n rhoi mwy o
hyblygrwydd i bobl wneud eu cyfraniad yn ystod eu bywydau gweithiol.
Costau llety
Mae'n bwysig nodi mai dim ond ystyried costau gofal pobl a wna'r opsiynau y mae Llywodraeth y DU wedi eu cyflwyno. Ni chaiff costau llety y bobl hynny mewn gofal preswyl eu talu gan y
wladwriaeth. Mae hyn yn cynnwys pethau fel costau bwyd a llety, costau glanhau'r ystafell, darparu bwyd a golchi dillad. Y rheswm dros hyn yw bod y costau hyn yn rhan normal o fywydau pawb,
waeth p'un a oes angen gofal arnynt ai peidio. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i bobl yng Nghymru sydd â chynilion neu sy'n berchen ar dy gwerth mwy na £22,000, ac nad yw eu partner na'u priod yn
byw yn eu cartref, gyfrannu at gostau eu llety.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig dull talu gohiriedig cyffredinol ar gyfer gofal preswyl a chostau llety. Golyga hyn pan fydd rhywun yn dewis mynd i gartref gofal, ni fydd yn rhaid
iddynt dalu'r costau llawn ar unwaith. Caiff taliadau gohiriedig eu cynnig gan lawer o awdurdodau lleol eisoes fel ffordd o alluogi pobl i dalu am eu costau gofal a llety mewn cartref gofal
drwy eu hystâd ar ôl iddynt farw, yn hytrach na gorfod gwerthu eu cartref ar unwaith.
Cred Llywodraeth y Cynulliad y dylai'r opsiwn i ohirio taliadau gofal a llety fod ar gael i bawb. Mae hwn yn fater y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru benderfynu cyflwyno deddfwriaeth
arno wedi'i theilwra i amgylchiadau Cymru.
Bod yn deg i bobl sydd wedi cynilo
Gwyddom fod pobl yn teimlo'n gryf ynghylch y syniad bod yn rhaid iddynt dalu mwy os ydynt yn gweithio'n galed ac yn cynilo na phe baent yn dewis gwario eu holl arian a pheidio â thrafferthu cynilo.
System ariannu a bennir yn genedlaethol neu'n lleol
Un o'r prif gwestiynau y mae angen i ni ei ateb yw a ddylai pobl gael yr un lefel o gymorth ariannol gyda'u gofal a chymorth ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru, neu a yw'n dderbyniol
i bobl mewn rhannau gwahanol o Gymru gael lefelau gwahanol o gymorth hyd yn oed os oes ganddynt yr un anghenion.
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru a ymatebodd i'n hymgynghoriad cynharach eu bod am gael system genedlaethol (Cymru gyfan), ond mae angen cynnwys rhywfaint o hyblygrwydd i alluogi
awdurdodau lleol ac eraill i gynllunio gwasanaethau yn lleol. Yn y modd hwn, gallant ymateb i'r hyn sydd ei angen ar bobl mewn ardal, adlewyrchu amgylchiadau lleol ac annog dulliau arloesol
o ddarparu gwasanaethau.
Un opsiwn fyddai i Lywodraeth y Cynulliad, neu Lywodraeth y DU benderfynu ar faint o arian y dylai pobl ei gael yn ganolog. Gellid sefydlu system a fyddai'n rhoi'r un swm o arian i bawb â'r un
lefel o angen waeth ble roeddent yn byw yng Nghymru. Neu gallem gyflwyno system genedlaethol a fyddai'n rhoi symiau ychydig yn wahanol i bobl yn dibynnu ar ble roeddent yn byw yng Nghymru er
mwyn rhoi cyfrif am y costau gofal a chymorth gwahanol ledled y wlad.