Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image

Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben erbyn hyn.

Hoffai Llywodraeth y Cynulliad ddiolch i bawb, yn unigolion ac yn sefydliadau, a ymatebodd I’r ymgynghoriad neu a fynychodd yr achlysuron ymgynghori. Mae’r adroddiad ar yr ymgynghoriad ar gael isod.

Update - December 2010

The UK Government's Commission on the Funding of Care and Support has issued a 'Call for Evidence'. Full details may be found on the Commission's website http://www.dilnotcommission.dh.gov.uk/call-for-evidence/

Although the Commission is primarily concerned with the funding of care in England, its work will also have major implications for the way care is funded in the other UK nations. The Commission has been asked to consider the impact of its work upon the Devolved Administrations, and the Commission Chair (Andrew Dilnot) has made it clear that he is keen to hear from stakeholders in Wales.

The Commission has asked for responses by 28 January 2011. Responses should be e-mailed directly to dilnotevidence@dh.gsi.gov.uk

Newyddion diweddaraf – Gorffennaf 2010

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i ddiwygio system talu am ofal Cymru. Bydd hefyd yn diwygio sut mae’r gofal hwnnw’n cael ei gynnig. Ers dechrau oes datganoli mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnig gofal cymdeithasol yn ei ffordd ei hun, gan fod y maes hwn wedi’i ddatganoli’n llwyr. Pan fydd ein Comisiwn ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru wedi cyflwyno’i adroddiad, cyhoeddir Papur Gwyn ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynnar yn 2011 a bydd hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer diwygio pellach.

Er mwyn diwygio’n sylweddol sut y byddwn ni’n talu am ofal bydd gofyn bod Llywodraeth y DU yn arwain y ffordd - a hynny am nad yw meysydd allweddol megis trethi, Yswiriant Gwladol a budd-daliadau wedi’u datganoli. Mae Llywodraeth newydd y DU wedi sefydlu Comisiwn ar Gyllido Gofal a Chymorth a bydd hwnnw’n adrodd yn ystod haf 2011. Gofynnwyd i’r Comisiwn ystyried goblygiadau ei gynigion o ran y Gweinyddiaethau Datganoledig. Mae Gweinidogion Cymru’n awyddus i sicrhau bod unrhyw system newydd a gynigir gan y Comisiwn yn addas ar gyfer y ffordd rydyn ni’n darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal a bod yn addas ar gyfer Lloegr.

Gofynnwyd i’r comisiwn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn ymwneud â thalu am ofal hefyd. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn tynnu sylw’r Comisiwn at yr adborth a gafwyd i’r ymgynghoriad, adroddiad ein Grwp Cynghori ar Dalu am Ofal, a phob tystiolaeth berthnasol arall o Gymru. Byddwn yn cymell y Comisiwn i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r prif randdeiliaid yng Nghymru.

Ceir mwy o wybodaeth am y Comisiwn ar y we: http://carecommission.dh.gov.uk/

Dysgwch fwy