Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image

Rydym wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn i geisio gwella'r ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi buddsoddi swm sylweddol o arian i amddiffyn pobl ar incwm isel sy'n gorfod talu am ofal yn y cartref. Fodd bynnag, gwyddom fod yna broblemau ac anawsterau i hyd, a bod angen i'r system newid rhywfaint rhagor.

Os na fyddwn ni'n newid y system, bydd hi'n fwyfwy anodd iddi fodloni disgwyliadau uwch defnyddwyr gofal am ansawdd eu gofal. Er ein bod yn dathlu'r ffaith bod llawer mwy o bobl Cymru'n byw'n hirach ac yn well eu hiechyd, mae angen i ni gynllunio ar gyfer y pwysau y bydd hyn yn ei roi ar wasanaethau gofal. Ac am ein bod yn byw'n hirach ac yn well ein hiechyd, rhagwelir bwlch ariannu mawr rhwng costau gwasanaethau gofal a'r arian sydd ar gael i dalu amdanynt.

Mae Llywodraeth y Cynulliad am glywed beth sydd gennych chi i'w ddweud

ynglŷn â sut y gallwn ni greu system decach a mwy cynaliadwy ar gyfer talu am ofal yn y dyfodol.

Rydym am glywed gan randdeiliaid hefyd - hynny yw, pobl sy'n gweithio i gorff y llywodraeth neu sefydliad sy'n:

  • darparu gwasanaethau gofal a chymorth; neu
  • sy'n cynrychioli pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

Yn ogystal â dweud eu dweud, rydym yn annog rhanddeiliaid i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a chynnal eu trafodaethau ymgynghori eu hunain. Mae deunyddiau i gynorthwyo ymgynghoriadau dan arweiniad rhanddeiliaid ar gael yn yr adran gwybodaeth i randdeiliaid.

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Dysgwch fwy

» Cefndir
» Dogfen ymgynghori (392KB) (yn agor mewn ffenestr newydd) pdf
» Dogfen ymgynghori hawdd i'w darllen (4,133KB) (yn agor mewn ffenestr newydd ac ar gael yn Saesneg yn unig) pdf
» Os oes gennych unrhyw gwestiynau, yn dymuno derbyn copi called o'r ddogfen ymgynghori, neu i'w dderbyn mewn fformat arall, yna e-bostiwch payingforcare@wales.gsi.gov.uk.

  • Rhannu'r cyfrifoldeb

    Sut ddylen ni rannu'r cyfrifoldeb dros dalu am ofal yn y dyfodol? Pwy ddylai gyfrannu mwy?
    Os oes angen gofal a chymorth arnoch chi, pwy ddylai dalu amdano?
    • Chi?
    • Eich teulu?
    • Y gymdeithas gyfan,trwy'r Llywodraeth a'r system dreth?
  • Pennu rheolau clir, teg

    Sut ddylai'r Llywodraeth dyrannu ei chyllid yn y dyfodol?
    Os oes angen gofal a chymorth arnoch chi, a ddylai'r cymorth ariannol a gewch chi ddibynnu ar:
    • Y math o gymorth sydd ei angen arnoch?
    • Faint o arian sydd gennych?
    A ddylid gwneud y penderfyniadau hyn yn lleol neu'n genedlaethol?