Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image

Cefndir

Ar 4 Gorffennaf 2011, cyhoeddwyd adroddiad gan y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu Gofal a Chymorth yn nodi ei gasgliadau a’i argymhellion ar gyfer creu system ariannu gofal a chymorth newydd yn Lloegr. Mae’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, wedi croesawu’r adroddiad, gan ddweud “Mae Cymru eisoes wedi cymryd camau i gapio taliadau am ofal cartref”.

Ym mis Gorffennaf 2010, sefydlodd Llywodraeth San Steffan y Comisiwn fel corff annibynnol dan gadeiryddiaeth yr economegydd Andrew Dilnot i ystyried a gwneud argymhellion ynghylch sut y gellid sicrhau system fforddiadwy a chynaliadwy i ariannu gofal a chymorth ar gyfer holl oedolion Lloegr. Enw’r adroddiad yw Adroddiad Dilnot.

I weld yr adroddiad llawn, ynghyd â’r prif ddogfennau perthnasol, ewch i:
http://www.dilnotcommission.dh.gov.uk/

Y Prif Argymhellion

Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod angen brys i ddiwygio’r system ariannu bresennol: mae’n anodd ei deall, yn aml mae’n annheg ac mae’n anghynaliadwy. Gall pobl gael eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw’n wynebu costau gofal a allai gael effaith andwyol iawn ar eu bywydau, a hynny heb unrhyw ffordd o amddiffyn eu hunain.

Mae’r adroddiad yn cynnwys y cynigion canlynol:

  • argymhellir na ddylai unigolyn dalu mwy na £35,000 mewn cyfraniadau tuag at ei gostau gofal yn ystod ei oes. Wedi hynny byddai’n gymwys i gael cymorth gwladol llawn;
  • dylid codi’r trothwy prawf modd o £23,250 i £100,000 cyn i bobl orfod talu eu costau gofal yn llawn;
  • dylid cyflwyno meini prawf cymhwysedd ac asesiadau trosglwyddadwy i sicrhau mwy o gysondeb;
  • dylai pawb sy’n cyrraedd oedran oedolyn, a chanddynt eisoes anghenion gofal a chymorth, fod yn gymwys i gael cymorth am ddim ar unwaith, yn hytrach na gorfod mynd drwy brawf modd;
  • dylai buddion anabledd cyffredinol i bobl o bob oedran barhau fel y maen nhw ar hyn o bryd. Dylid sicrhau bod y buddion hynny’n cyd-fynd yn well â’r system ariannu gofal cymdeithasol diwygiedig.

Ar gyfer Lloegr y mae Adroddiad Dilnot – beth am Gymru?

Mae gan Lywodraeth Cymru ei rhaglen ei hunan ar gyfer adnewyddu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, fel y nodir yn ei Phapur diweddar Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Mae Prif Weinidog Cymru wedi sôn am fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol pwysig i ddarparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Byddai hynny’n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau deddfu a gafodd yn gynharach eleni.

Mae Gweinidogion wedi ymrwymo ers amser i greu system newydd deg, fforddiadwy, gynaliadwy a hirdymor ar gyfer talu am ofal cymdeithasol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Papur Gwyrdd ac wedi cynnal ymgynghoriad eang i ganfod pa fath o system a fyddai’n cael cefnogaeth yn wleidyddol a chan y cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi capio taliadau gofal cymdeithasol i’r rheini sy’n byw gartref ac sy’n cael gwasanaethau cymdeithasol di-breswyl. £50 yr wythnos yw’r uchafswm i bawb yng Nghymru (nid yw’n cynnwys gwasanaethau lefel isel, cost isel, lle codir taliadau safonol, fel darparu prydau bwyd).

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i adroddiad Dilnot, dywedodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC:

"Dw i’n croesawu cyhoeddi’r adroddiad hwn ar ariannu gofal yn y tymor hir yn Lloegr. Mae hwn yn fater pwysig iawn i bobl Cymru, yn ogystal ag i weddill Prydain. Dw i’n awyddus iawn i weld system deg a chynaliadwy ar waith yma".

"Dyna pam rydyn ni eisoes wedi cymryd camau yng Nghymru i gapio taliadau am ofal cymdeithasol – rydyn ni wedi pennu uchafswm o £50 yr wythnos ar gyfer taliadau am ofal di-breswyl ac mae’n dda gennyf weld bod pobl ledled Cymru bellach yn elwa ar y newid hwnnw. Dw i’n falch o weld bod Comisiwn Dilnot yn dilyn dull gweithredu ymarferol a syml tebyg trwy fod eu prif argymhellion yn ymwneud â chapio’r cyfraniadau tuag at gostau gofal y mae unigolyn yn eu gwneud yn ystod ei oes".

Ymateb i’r Adroddiad – Camau Nesaf Llywodraeth y DU

Mae’r Adran Iechyd yn bwriadu ymgysylltu â’r sector gofal yn yr hydref ynghylch cynlluniau i ddiwygio gofal cymdeithasol – gan gynnwys ymateb i adroddiad Dilnot. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar faterion gofal cymdeithasol ehangach y gwanwyn nesaf ynghyd ag adroddiad cynnydd ar ddiwygio’r system ariannu.

Beth nesaf i Gymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Byddwn yn ystyried a fydd angen rhoi darpariaethau ar waith i ymdrin â’r materion sy’n deillio o gasgliadau ac argymhellion adroddiad Dilnot. Byddwn hefyd yn parhau i drafod materion ariannu gyda Llywodraeth San Steffan. Bydd hynny’n sicrhau bod y ddwy Lywodraeth yn deall syniadau ei gilydd yn glir, ac y bydd unrhyw gynigion yn dod â budd i bobl Cymru.