Cefndir
- Beth yw gofal a chymorth?
- Sut y telir amdano?
- Pam bod angen i hyn newid?
- Beth yw rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru?
- Talu am ofal yng Nghymru: y ddadl hyd yn hyn
Beth yw gofal a chymorth?
Mae a wnelo gofal a chymorth â chael help gyda phethau fel gofal personol a thasgau beunyddiol, fel y gallwch barhau i fyw'n annibynnol.
Caiff rhywfaint o ofal ei ddarparu mewn cartrefi preswyl neu nyrsio, ond caiff y rhan fwyaf ei ddarparu yng nghartrefi pobl eu hunain. Caiff cryn dipyn o ofal a chymorth ei ddarparu yn anffurfiol gan deuluoedd, ffrindiau a chymdogion.
Sut y telir amdano?
Mae hyn yn dibynnu. Y GIG sy'n talu am ofal iechyd hirdymor. Ond mae'n rhaid talu am wasanaethau cymdeithasol, a'ch cyngor lleol sy'n penderfynu faint mae'n rhaid i chi ei dalu yn seiliedig ar eich incwm a'ch cynilion. Os bydd rhaid i chi gael gofal preswyl bydd y cyngor hefyd yn ystyried gwerth unrhyw eiddo rydych yn berchen arno. Gall pobl hefyd gael budd-daliadau lles.
Pam bod angen i hyn newid?
Am fod mwy ohonom yn byw'n hirach a bod llai o bobl o oedran gweithio a all gyfrannu drwy eu trethi. Hefyd, mae ein disgwyliadau yn uwch ac rydym yn mynnu cael gwasanaethau o ansawdd uwch fel y gallwn fyw bywydau mwy annibynnol a bodlon. Mae hyn yn golygu y bydd angen mwy o arian ar gyfer gofal yn y dyfodol.
Beth yw rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru?
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am y system gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chaiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu gan awdurdodau lleol (cynghorau) ar lefel leol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datblygu strategaeth unigryw i wella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth newydd i sicrhau mwy o gysondeb o ran y ffioedd a godir gan awdurdodau lleol am wasanaethau cymdeithasol a ddarperir yn y cartref, ac i helpu gofalwyr.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu Comisiwn i edrych ar ddyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn ystyried sut y gallai gwasanaethau cymdeithasol ateb yr heriau a wynebir dros y degawd nesaf. Gofynnwyd i'r Comisiwn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad Papur Gwyrdd hwn wrth lunio ei argymhellion i'w cyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad ynghylch cyfeiriad gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad ar y rhain erbyn hydref 2010.
Er mai Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol yng Nghymru, Llywodraeth San Steffan (y DU) sy'n bennaf cyfrifol am y dulliau o newid y system o dalu am ofal, ac mae'r fframwaith cyfreithiol presennol yn cwmpasu Lloegr yn ogystal â Chymru. Cafodd yr opsiynau a gyflwynir yn y Papur Gwyrdd eu datblygu gan Lywodraeth y DU (sy'n cynnal ymgynghoriad ar wahân yn Lloegr). Bydd angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ystyried goblygiadau'r cynigion hyn i Gymru, a lleisio barn glir o safbwynt Cymru ar sut y dylid newid y system. Rydym am geisio dod i gytundeb ym mhob rhan o gymdeithas ar y dewis opsiwn a dyna pam mae eich safbwyntiau mor bwysig.
Talu am ofal yng Nghymru: y ddadl hyd yn hyn
Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru raglen ymgynghori ac ymgysylltu fawr ar gyfeiriad cyffredinol unrhyw gamau diwygio. Mae canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw wedi helpu i lunio'r cynigion a gyflwynir yn y Papur Gwyrdd.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid, yng Nghaerdydd a Llandudno. Rhoddwyd cyfleoedd i'r cyhoedd ymateb drwy'r post, drwy e-bost, neu mewn digwyddiadau a drefnwyd gan randdeiliaid lleol. Gellir gweld adroddiadau ar y digwyddiadau a gynhaliwyd gan randdeiliaid ynghyd â dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yma [Ymgynghoriad gwreiddio - 2008 ].
Hefyd, sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad Grwp Cynghori Rhanddeiliad i ystyried opsiynau polisi mewn perthynas â gwneud trefniadau tecach a mwy cynaliadwy ar gyfer talu am ofal. Roedd y Grwp Cynghori yn cynnwys sefydliadau ac unigolion a oedd yn cynrychioli amrywiaeth o fuddiannau rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl anabl, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, llywodraeth leol ac iechyd, perchenogion cartrefi gofal, a phobl hyn. Gellir gweld adroddiad y Grwp Cynghori yma [Ymgynghoriad gwreiddio - 2008 ].
Lluniodd y Grwp Cynghori y gyfres ganlynol o egwyddorion, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y Cynulliad.
‘Credai fod angen i unrhyw system newydd o dalu am ofal wneud y canlynol:
- bod yn benodol am hawliau dynol;
- cynorthwyo'r unigolyn pan fo angen y cymorth arno;
- sicrhau bod penderfyniadau am ddarparu gofal yn cael eu gwneud ar sail anghenion yr unigolyn ac nid ar sail adnoddau ariannol neu asedau eraill yr unigolyn neu berthnasau;
- bod yn syml, h.y. yn hawdd i ddefnyddwyr a darparwyr ei deall a'i gweithredu;
- hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac annibyniaeth;
- hyrwyddo triniaeth deg a chyfartal;
- hyrwyddo cyfranogiad yr unigolyn a'r broses o'i rymuso;
- sicrhau bod darparwyr yn atebol a bod y rhai hynny sy'n derbyn y gwasanaeth yn gallu mynegi eu barn a'u cwynion;
- bod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn ariannol, a dangos gonestrwydd o ran y defnydd o arian cyhoeddus'.

