Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Cefndir

Beth yw “gofal”?

Pan fyddwn ni’n sôn am “ofal”, rydym yn disgrifio’r gwasanaethau a’r gweithgareddau eraill sy’n cynorthwyo pobl i fyw bywydau annibynnol, gweithgar ac iach, a bod yn rhan o’r gymuned. Mae llawer o’r gwasanaethau gofal hyn yn cynorthwyo pobl hyn neu anabl. Maent yn cynorthwyo pobl i gyflawni pethau bob dydd megis:

  • Byw yn eu cartref
  • Gweithio
  • Coginio
  • Siopa
  • Gofalu am eu teulu

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn a olygwn wrth wasanaethau gofal:

  • Pryd ar glyd - prydau’n cael eu danfon atoch yn eich cartref.
  • Addasiadau i’r cartref – megis rampiau, rheiliau i gydio ynddynt neu lifft grisiau.
  • Gwasanaethau cymorth tai – megis wardeiniaid a larymau mewn llety gwarchod.
  • Budd-daliadau i bobl anabl – arian ychwanegol i helpu gyda’r costau byw uwch sy’n gysylltiedig â bod yn anabl.
  • Therapi galwedigaethol – triniaeth i helpu pobl i oresgyn effeithiau anabledd a byw bywydau llawn ac annibynnol.
  • Gofal dydd – canolfannau yn y gymuned sy’n cynnig cefnogaeth a chymorth i bobl hyn a phobl ag anableddau gyda thasgau sylfaenol bob dydd.
  • Cartrefi gofal – cartref preswyl sy’n darparu gofal.
  • Cymorth i ofalwyr – megis gofal seibiant, cymorth i gael gafael ar wybodaeth a manteisio ar weithgareddau cymdeithasol, hamdden ac addysg.

↑ Top y dudalen

Pwy sydd angen gofal yng Nghymru?

Gall fod angen gofal ar unrhyw un ohonom ni rywbryd yn ein bywydau. Dyma’r bobl sy’n debygol o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru:

  • pobl sydd wedi cael damwain;
  • pobl sydd â salwch hirdymor;
  • pobl anabl; neu
  • bobl hŷn

Ar hyn o bryd, mae tua 27,000 o bobl mewn cartrefi gofal preswyl a gofal nyrsio yng Nghymru a 41,000 o bobl yn derbyn gwasanaethau gofal y eu cartrefi neu wasanaethau gofal dydd.

↑ Top y dudalen

Pwy sy’n darparu gofal yng Nghymru?

Mae pobl yn cael gofal a chymorth o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:

  • eu teulu – sy’n aml yn talu am wasanaethau gofal ac yn darparu gofal eu hunain;
  • eu ffrindiau;
  • awdurdodau lleol – sy’n talu am wasanaethau a’u darparu;
  • llywodraeth ganolog – sy’n darparu cymorth ariannol trwy fudd-daliadau a grantiau;
  • elusennau – megis sefydliadau gwirfoddol a chymunedol; a
  • busnesau gofal a chymorth.

↑ Top y dudalen

Pwy sy’n talu am ofal yng Nghymru ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae tair ffynhonnell ariannu ar gyfer y system gofal yng Nghymru:

  1. mae unigolion yn talu rhywfaint o gostau neu holl gostau’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn;
  2. mae teuluoedd yn darparu gofal, a/neu’n talu tuag at gost y gwasanaethau; ac
  3. mae’r gymdeithas gyfan yn talu trwy drethi lleol a chyffredinol. Defnyddir yr arian sy’n cael ei godi i ddarparu gwasanaethau neu gymorth ariannol.

Mae’r Llywodraeth o’r farn y bydd cost gofal a chymorth yn cael ei rhannu’n barhaus, ond mae gwahanol ffyrdd o gydbwyso’r cyfrifoldeb hwn yn y dyfodol. Gallwch chi dweud eich dweud ynglyn â’r ffordd y credwch chi y dylid rhannu’r cyfrifoldeb hwn yn y dyfodol.

↑ Top y dudalen

Beth yw’r system ar gyfer talu am ofal yng Nghymru?

Efallai y bydd pobl angen gofal i’w cynorthwyo i fod yn annibynnol, yn weithgar ac yn iach ar hyd eu hoes. Os oes rhywun angen gofal, mae ei anghenion gofal yn cael eu hasesu er mwyn canfod pa fath o ofal sydd ei angen arno a’r ffordd y bydd y gofal yn cael ei ddarparu.

Mae yna wahanol systemau ariannu, sy’n dibynnu ar os yw asesiad unigolyn yn dangos bod arno angen:

  • gofal iechyd parhaus:
  • gofal nyrsio;
  • gofal preswyl; neu
  • ofal a chymorth yn y cartref.

Mae eich awdurdod lleol yn asesu a all unigolyn fforddio talu am ei ofal ai peidio yn unol â’r rheolau sy’n berthnasol i bob math o ofal.

↑ Top y dudalen

Pam fod angen system newydd ar gyfer talu am ofal?

Mae yna ddau brif reswm:

  • rydyn ni’n byw’n llawer hirach nag o’r blaen. Dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd yna fwy o bobl hyn a phobl anabl yng Nghymru a fydd yn byw’n hirach ac yn well eu hiechyd. Eisoes mae poblogaeth Cymru’n cynnwys cyfran uwch o bobl hyn na gweddill y DU. Ac, er ein bod yn dathlu’r datblygiad hwn, gwyddom hefyd y bydd yn cynyddu’r galw a’r pwysau ar y system gofal; ac
  • mae’n disgwyliadau wedi newid. Fe fyddwn, fwyfwy, yn disgwyl derbyn gofal a chymorth o ansawdd uchel sydd wedi’i lunio’n arbennig ar gyfer ein hanghenion

Rhagwelir bwlch ariannu o £6 biliwn yn y DU, rhwng cost y gwasanaethau gofal hyn a’r arian sydd ar gael i dalu amdanynt.

↑ Top y dudalen

Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud eisoes?

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi strategaeth (yn agor mewn ffenestr newydd) ar waith ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol: “Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol”. Nod y strategaeth yw mynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil y galw cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol oherwydd y newid demograffig a chymdeithasol, a’r disgwyliadau uwch o safbwynt ansawdd gwasanaethau. Mae’n pwysleisio bod arnom ni angen gwasanaethau sy’n:

  • mynd ati’n ymarferol i atal pobl rhag colli’u hannibyniaeth; ac
  • sy’n cael eu darparu’n effeithlon i’r un safonau uchel ym mhob cwr o Gymru.

Bydd y Strategaeth yn ceisio gwella gwasanaethau i’r defnyddwyr trwy:

  • asesu’n well – i wneud y siwr bod y gwasanaethau yn canolbwyntio ar y bobl sy’n eu defnyddio;
  • gwell arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar lefel uwch;
  • codi safonau ansawdd;
  • comisiynu’n well – fel bod awdurdodau lleol yn cynorthwyo i lywio’r farchnad darparu gofal;
  • gwell partneriaethau ar gyfer darparu gofal; a
  • gwelliannau yn y gweithlu – gyda’r pwyslais ar y defnyddwyr gwasanaethau, a’u gofalwyr, sy’n derbyn gwasanaethau.

Mae mentrau eraill sydd ar waith ar hyn y bryd yn cynnwys:

  • Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007 – mae hwn yn amlinellu amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo gofalwyr gyda’u dyletswyddau gofal a’u cynorthwyo i gadw’n iach eu hunain. Mae hefyd yn ymdrin ag effeithiau newidiadau demograffig a’r duedd i aelodau’r teulu fyw ar wahân.
  • Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a’r Rhaglen Addasiadau Brys - gall y rhain gynorthwyo pobl hyn a phobl anabl i aros yn eu cartrefi eu hunain, neu i ddod adref o’r ysbyty neu ofal preswyl yn gynt, a byw mor annibynnol â phosibl.
  • Y fenter Cefnogi Pobl – mae’r fenter hon yn cynorthwyo pobl agored i niwed i fyw’n annibynnol trwy ddarparu cymorth sy’n ymwneud â thai megis cyngor a chymorth o ran cyllidebu a thalu biliau, neu gymorth i ddatblygu sgiliau coginio a glanhau.
  • Cynlluniau rhyddhau ecwiti – mae’r rhain yn cynorthwyo pobl hyn sydd yn berchen ar eu cartrefi i greu, rhyddhau neu gael gafael ar incwm neu symiau cyfalaf, tra’n parhau i fyw yn eu cartref.

↑ Top y dudalen

Beth ddylai’r system newydd ar gyfer talu am ofal ei wneud?

Rydym o’r farn bod nifer o wendidau yn y ffordd rydym yn talu am ofal ar hyn o bryd:

  • mae’n gymhleth;
  • mae’n anodd ei deall a’i dilyn;
  • mae’n anghyson ar gyfer gwahanol gategorïau gofal;
  • mae’n annheg i rai defnyddwyr - megis pobl â chlefyd Alzheimer; ac
  • nid yw’n annog pobl i gynilo ar gyfer eu henaint.

Rydym am wneud yn siwr y bydd system newydd ar gyfer talu am ofal yn:

  • rhoi annibyniaeth, dewis a rheolaeth i bobl;
  • gwneud yn siwr bod pawb yn cael gofal o ansawdd uchel a bod pawb yn cael rhywfaint o gymorth gan y Llywodraeth, ond bod y cyllid wedi’i dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf; ac
  • yn fforddiadwy i’r Llywodraeth, unigolion a theuluoedd yn yr hirdymor.

↑ Top y dudalen

Sut fydd y system newydd yn cyd-fynd â’r cynlluniau ar gyfer Lloegr?

Mae ymgynghoriad paralel ond ychydig ehangach yn cael ei gynnal yn Lloegr. Mae’n ymdrin â gwelliannau yn y system ar gyfer darparu gofal a chymorth (sydd wedi cael sylw yng Nghymru trwy’r strategaeth “Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol” ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol) yn ogystal â chwestiynau ynglŷn â thalu am ofal.

Er mai Llywodraeth y Cynulliad sy’n penderfynu ar lawer o’r agenda talu am ofal, bydd angen i ni weithio’n agos gyda San Steffan ar faterion eraill, megis budd-daliadau, wrth i ni gynllunio’r system newydd.

Gallwch fynd i wefan ymgynghoriad Lloegr yn www.careandsupport.direct.gov.uk (yn agor mewn ffenestr newydd).

↑ Top y dudalen

Sut mae gwledydd eraill yn darparu gofal a chymorth?

Dyma ddwy enghraifft ddiddorol o systemau gwahanol:

  • yn Japan - mae’r Llywodraeth yn annog pobl sydd angen gofal a chymorth i ddefnyddio gwasanaethau ffurfiol, sydd wedi’u trefnu fel nad yw gofalwyr, (yn enwedig merched a merched-yng-nghyfraith), yn ysgwyddo gormod o gyfrifoldebau. Ariennir hanner y system gan drethi cyffredinol a’r hanner arall gan bremiymau sy’n cael eu cymryd o gyflogau pobl dros 40 oed, yn ogystal ag o bensiynau preifat; ac

  • yn yr Almaen - mae’r Llywodraeth yn annog gofal a chymorth mwy anffurfiol. Mae’r Almaenwyr yn talu i gronfa ofal benodol gydol eu bywyd gwaith ac mae’n rhaid i bobl sydd heb blant dalu mwy. Os oes angen gofal arnynt yn nes ymlaen yn eu bywydau, gallant ddewis rhwng gwasanaethau ffurfiol neu daliad arian parod is y gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo aelodau’r teulu sy’n gofalu amdanynt.

↑ Top y dudalen

Pam fod Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i drafod system newydd ar gyfer talu am ofal?

Mae Llywodraeth y Cynulliad o’r farn y dylai pawb allu mynegi barn ar y ffordd y dylai’r system newydd weithio, oherwydd bydd y newidiadau hyn yn effeithio bob oedolyn yng Nghymru. Bydd llawer ohonom angen gofal a chymorth pan fyddwn ni’n hyn, neu bydd gennym aelodau’r teulu neu ffrindiau sydd ei angen.

↑ Top y dudalen

Sut fydd fy sylwadau’n cael eu defnyddio?

Dim ond ar gyfer llunio cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y DU i newid y system ar gyfer talu am ofal y byddwn ni’n defnyddio’ch sylwadau. Amlinellir y cynlluniau hyn mewn Papurau Gwyrdd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2009.

(Cynnig y Llywodraeth i wneud newidiadau i bolisi neu system o bwys sy’n destun ymgynghoriad yw Papur Gwyrdd. Mae fel arfer yn cael ei ddilyn gan Bapur Gwyn, sef cynnig i lunio deddfwriaeth newydd i roi’r newidiadau hyn ar waith.)

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein polisi preifatrwydd.

↑ Top y dudalen

Ydych chi neu aelod o’ch teulu angen gwasanaethau gofal neu iechyd?

Os ydych yn tybio bod arnoch chi neu aelod o’ch teulu gwasanaethau gofal o bosib, dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn y lle cyntaf. Maent yn rhan o’ch cyngor a dylech allu cael eu manylion cyswllt yn eich llyfr ffôn lleol. Dylai eich meddygfa, Swyddfa Cyngor ar Bopeth neu eich llyfrgell leol allu’ch cynorthwyo i gael y wybodaeth hon.

↑ Top y dudalen

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image