Skip to content | Skip to navigation | Dewisiadau | Background | Sharing the responsibility | Setting clear, fair rules

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n talu am ofal yng Nghymru - mynnwch ddweud eich dweud

Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image Placeholder image

Y mae'r Ymgynghoriad yma nawr ar gau.

Hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru rhoi diolch i pawb sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad, neu sydd wedi mynychu'r achlysuron rhanddeiliad. Y mae'r ymatebau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a fydd adroddiad yn cael i cyflwyno i Gweinidogion Cymru, erbyn diwedd mis Mawrth. Fydd y'r adroddiad ymgynghoriad yn cael ei postio yma maes o law.

Ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar yr opsiynau ar gyfer diwygio

Gall fod angen gofal a chymorth ar unrhyw un ohonom rywbryd yn ein bywydau. Ond sut y dylem dalu amdano?

Mae'r system bresennol o dalu am ofal i bobl hyn ac anabl ar waith ers 60 mlynedd, ac mae angen iddi newid er mwyn bodloni'r galw cynyddol a disgwyliadau uwch. Rydym am greu system sy'n symlach, yn decach ac yn fwy fforddiadwy i unigolion, eu teuluoedd a llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am glywed eich barn chi ar sut y dylem dalu am ofal yn y dyfodol.

Cafodd y Papur Gwyrdd ‘Talu am Ofal yng Nghymru: creu system deg a chynaliadwy' ei gyhoeddi ar 16 Tachwedd 2009. Mae'n nodi nifer o opsiynau ar gyfer diwygio'r system bresennol ynghyd â phrif fanteision ac anfanteision pob un. Mae gennych tan 28 Chwefror 2010 i roi sylwadau ar yr opsiynau hyn a dweud wrthym pa fodel a fydd yn gweithio orau yng Nghymru yn eich barn chi.

Dysgwch fwy